SL(6)247 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (“y Rheoliadau”) yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Yn gyffredinol, mae’r diwygiadau hyn naill ai:

(a)        yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol mewn deddfwriaeth sylfaenol yn parhau i gael effaith briodol drwy gyfeirio at y contractau meddiannaeth perthnasol ochr yn ochr â chyfeiriadau at fathau presennol o denantiaethau, neu drwy gynnwys y derminoleg a ddefnyddir yn Neddf 2016; neu

(b)       lle bwriedir i ddarpariaethau Deddf 2016 ddisodli elfennau o'r gyfraith bresennol neu mae'r gyfraith bresennol yn anghydnaws â'r hyn a nodir yn Neddf 2016, drwy ddatgymhwyso’r gyfraith honno.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi bod y diwygiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn gweithredu Deddf 2016, darparu cydlyniad, eglurder a sicrhau cysondeb o ran y gyfraith.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y chwe phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn yfersiwn Gymraeg o'r Rheoliadau, yn Atodlen 1, ym mhennawd paragraff 3, mae'r gair “Rheoliadau” ar goll o'r cyfieithiad o enw'r offeryn statudol, er ei fod yn gywir yn y paragraff ei hun.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 17(b)(iii)(aa) a (bb), mae’r disgrifiadau’n gamarweiniol drwy ddechrau â’r geiriau “ym mharagraff (a), yn y diffiniad o [X].” Mae'r drafftio yn awgrymu bod y ddau ddiffiniad yn ymddangos “ym mharagraff (a)” sy'n is-adran o “baragraff 4(1)” (h.y. “paragraff 4(1)(a)”).

Fodd bynnag, mae mwy nag un paragraff (a) ym mharagraff 4(1) gan fod pob diffiniad yn cynnwys “paragraff (a)”. Felly, dylid drafftio’r geiriau mewn trefn wahanol, “yn y diffiniad o X, ym mharagraff (a)”.

Mae’r un mater yn codi ym mharagraff 17(b)(ix)(aa) a (bb), ac 17(b)(xvii)(aa) a (bb).

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 19(b)(ii) a (iii) mae’r testun yn darparu y dylai’r testun a fewnosodwyd fod “…ar ôl “assured monthly periodic tenancy”…”.

Ond nid yw'r gair “monthly” yn ymddangos yn rheoliad 3(d) ac (e) o Reoliadau 1997, dim ond “assured periodic tenancy”.

4. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 19(c)(iv)(ii), dywed y disgrifiad “yn y geiriau o flaen paragraff (a)”. Ond mae mwy nag un “paragraff (a)” yn Nodyn 3, felly dylid disgrifio’r disgrifiad mewn modd mwy penodol, fel y gwneir mewn man arall ym mharagraff 19(c)(iv)(jj) a pharagraffau eraill sy’n defnyddio’r geiriau “paragraff cyntaf” bob tro os oes mwy nag un paragraff (a) neu (b) yn y Nodyn.

5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 20(a), cyfeirir at leoliad y diwygiad fel “paragraff (a)”, fodd bynnag “is-baragraff (a)” sy’n gywir. Mae paragraff 20(b), yn cyfeirio’n gywir at “is-baragraff (b)” sy’n dangos anghysondeb yma.

6. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 21(a), yn y ddwy iaith, dylid cynnwys y diffiniad cyfatebol mewn cromfachau ar ôl y diffiniad newydd “contract diogel”, fel sy’n ofynnol gan y canllawiau ym mharagraff 4.15(6) yn Drafftio deddfau i Gymru.

Yn ail, yn Rheoliadau 2003 yr iaith Saesneg, mae’r gair “and” yn ymddangos ar ôl y diffiniad olaf ond un, “the Common Travel Area”. Os mewnosodir y diffiniad newydd “secure contract” “yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor” bydd yn ymddangos ar ddiwedd y rhestr bresennol o ddiffiniadau. Felly mae angen darpariaeth arall i ddileu’r gair “and” yn y testun Saesneg, ac mae angen atalnod llawn yn lle hanner colon ar ddiwedd y diffiniad o “secure contract”.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud y diwygiad priodol cyn y daw’r Rheoliadau i rym.

Pwynt Craffu Technegol 2:

Ymateb

Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod y disgrifiadau yn gamarweiniol. Gan fod y diffiniadau perthnasol wedi’u cyfeirio’n briodol, mae’n amlwg lle y mae angen gwneud y diwygiadau. Yn ein barn ni, mae’r diwygiad yn cyflawni’r effaith gyfreithiol angenrheidiol felly nid oes angen diwygio.

Pwynt Craffu Technegol 3:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r pwynt hwn a bydd yn gwneud y diwygiad priodol cyn y daw'r Rheoliadau i rym.

Pwynt Craffu Technegol 4:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gellid bod wedi defnyddio’r geiriau “paragraff cyntaf” er cysondeb. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod paragraff 19(c)(iv)(ii) o Atodlen 1 yn glir fel y mae wedi’i ddrafftio. Er bod ail baragraff (a) yn Nodyn 3, dim ond yn y geiriau o flaen y paragraff (a) cyntaf y mae’r geiriau “assured monthly periodic tenancy” yn ymddangos felly ni fyddai amheuaeth o ran lle y mae angen gwneud y mewnosodiad. Yn ein barn ni, nid oes angen diwygiad.

Pwynt Craffu Technegol 5:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn glir lle y mae angen gwneud y diwygiad. Fodd bynnag, er mwyn gwella cysondeb, bydd y diwygiad priodol yn cael ei wneud cyn y daw’r Rheoliadau i rym.

Pwynt Craffu Technegol 6:

Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y diwygiad yn glir a’i fod yn cyflawni’r effaith gyfreithiol angenrheidiol. Fodd bynnag, bydd y diwygiad priodol yn cael ei wneud cyn y daw’r Rheoliadau i rym.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Awst 2022